Mae cyflwyno eich babi neu blentyn bach i’r Gymraeg yn sylfaen wych ar gyfer eu datblygiad yn y dyfodol fel unigolyn dwyieithog neu amlieithog.

Mynnwch wybodaeth am glybiau babanod Cymraeg, gweithgareddau i blant bach, a grwpiau rhieni a babanod.

Child riding a bike by Cardiff Castle
Mudiad Meithrin

Mae’r Mudiad Meithrin a Cymraeg i Blant yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau cyffrous ac ysgogol ar draws y ddinas i fabanod, plant bach a phlant ifanc. Does dim rhaid i chi siarad Cymraeg i gael mynd!

Cymraeg i Blant

Mae Cymraeg i Blant yma o’r cychwyn cyntaf er mwyn eich helpu chi, fel rhiant newydd, i gyflwyno’r Gymraeg i’ch cartref wrth ddewis gofal plant ac addysg Gymraeg.

Dysgu mwy am Cymraeg i Blant.

Cylch Ti a Fi

Mae symud ymlaen o grwpiau Cymraeg i Blant i Gylch Ti a Fi yn gam pwysig i’ch plentyn barhau i fwynhau dysgu a chwarae drwy gyfrwng y Gymraeg.

Dysgu mwy am Gylchoedd Ti a Fi.

Cylch Meithrin

A young baby sat on the floor

Wrth symud ymlaen o Gylch Ti a Fi, gall eich plentyn fynychu Cylch Meithrin.  Nod y Cylch Meithrin yw hyrwyddo addysg a datblygiad plant o 2 flwydd oed hyd at oedran ysgol.

Yn y Cylch Meithrin, bydd eich plentyn yn cael cyfle i fwynhau cwmni plant eraill a dysgu trwy chwarae gyda staff cymwys, cyfeillgar a brwdfrydig.  Mae llawer o Gylchoedd Meithrin yng Nghaerdydd wedi’u lleoli ar safleoedd ysgol a fydd yn helpu’ch plentyn i drosglwyddo i fywyd Meithrin mewn ysgol Gymraeg.

Mae rhai Cylchoedd Meithrin yn cynnig gofal cofleidiol.  Sesiynau hanner diwrnod yw dosbarthiadau meithrin mewn ysgolion, felly pan nad yw eich plentyn yn y dosbarth meithrin, gellir gofalu amdanynt yn y Cylch Meithrin.

Dysgu mwy am Gylchoedd Meithrin.

Plant 0 i 5 oed ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY)

Mae’r Gwasanaeth Cynhwysiant Blynyddoedd Cynnar Cyngor Caerdydd yn cefnogi plant 0 i 5 oed sydd ag anghenion sylweddol neu gymhleth.

Mae’r gwasanaeth yn dwyn ynghyd amrywiaeth o arbenigedd, cyngor ac arweiniad ar gyfer:

  • phlant a’u teuluoedd,
  • lleoliadau blynyddoedd cynnar, ac
  • ysgolion.

Mae’r gwasanaeth wedi ymrwymo i ddarparu cymorth yn ddwyieithog.  Mae gweithwyr yn gweithio’n agos gyda’r Mudiad Meithrin i gynnig cymorth ac ymweliadau rheolaidd â’r holl leoliadau Cylch Meithrin.

Dysgwch fwy am gynhwysiant yn y blynyddoedd cynnar.

Logo Cymraeg i Bawb

Rydym yn falch o fod yn rhan o Bartneriaeth Hyrwyddo Addysg Gymraeg y De-ddwyrain sydd yn gyfrifol am Cymraeg i Bawb – yr ymgyrch i hyrwyddo addysg Gymraeg.