Mae Ein Dinas, Ein Hiaith / Our City, Our Language yn wefan sy’n fenter ar y cyd rhwng y Tîm CSCA Addysg a Thîm Caerdydd Ddwyieithog Cyngor Caerdydd.

Mae’r Gymraeg wastad wedi bod yn rhan o hanes cyfoethog Caerdydd.  Mae’n agwedd annatod ar hunaniaeth y ddinas, yn rhan amlwg o’i hanes ac yn rhoi blas gwahanol iawn i’n dinas amrywiol ac aml-ddiwylliannol.   Prif nod y wefan newydd yw adlewyrchu’r cyfoeth hwn heddiw.

Mae’r ddau dîm yn cydweithio i weithredu’r targedau uchelgeisiol a amlinellir yng Nghynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg y Cyngor a’i Strategaeth Caerdydd Ddwyieithog.  Nod y cydweithio yw sicrhau cysondeb o ran uchelgais a chamau gweithredu, cynyddu a gwella addysg Gymraeg a chynnig y dewis hwn i bob rhiant a gofalwr yng Nghaerdydd.  Mae’r ddwy strategaeth yn nodi’r camau rydym yn bwriadu eu cymryd i wneud pob dysgwr yng Nghaerdydd yn siaradwyr dwyieithog hyderus.

Bydd gwefan Ein Dinas, Ein Hiaith / Our City, Our Language yn eich annog gobeithio i ddarganfod pob peth sy’n ymwneud â’r Gymraeg yn ein Prifddinas.

Gobeithiwn y bydd y wefan o ddefnydd i chi.

 

Cofion gorau,

Ymgynghorydd CSCA a Pennaeth Caerdydd Ddwyieithog