Mae Caerdydd yn falch o gynnig addysg Gymraeg mewn ysgolion cynradd. Mae addysg Gymraeg yn gadael i blant ddysgu yn y Gymraeg ac yn y Saesneg.

Mae llawer o fanteision a buddion hirdymor i allu siarad Cymraeg a Saesneg yn rhugl yng Nghymru.

Addysg Gymraeg

Mae gennym lawer o ysgolion Cymraeg yng Nghaerdydd.  Y math hwn o addysg yw’r ffordd orau o ddod yn rhugl yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Gallwn roi’r rhodd i’ch plentyn neu blant o fod yn rhugl yn y Gymraeg a’r Saesneg, beth bynnag yw eich iaith gartref.  Mae dros 70% o’r disgyblion sy’n mynychu ysgolion Cymraeg yng Nghaerdydd yn dod o deuluoedd nad sy’n deuluoedd Cymraeg eu hiaith.   Nid yw llawer o blant y brifddinas yn siarad Cymraeg na Saesneg fel mamiaith, ac maen nhw hefyd yn ffynnu mewn ysgol Gymraeg gan eu bod eisoes yn amlieithog.

Bydd pob plentyn sy’n mynychu ysgol Gymraeg yn gallu siarad Cymraeg a Saesneg yn rhugl.  Byddant hefyd yn gallu darllen ac ysgrifennu yn hyderus a chyda hyfedredd yn y ddwy iaith.   Os yw eich plentyn yn mynychu ysgol Gymraeg, nid yw hyn yn effeithio ar ei allu i ddysgu, siarad, darllen nac ysgrifennu yn Saesneg.

Mae llawer o ysgolion rhagorol ar draws y brifddinas sy’n cynnig addysg Gymraeg.  Mae gan lawer ohonynt feithrinfeydd cyfrwng Cymraeg fel rhan o’u hysgol, sy’n golygu y gallai eich plentyn ddechrau yn y tymor ar ôl ei ben-blwydd yn dair oed, os oes lleoedd ar gael gan yr ysgol.

Ysgolion Cymraeg yng Nghaerdydd

Mae 15 o ysgolion cynradd Cymraeg – dysgu mwy am yr ysgolion:

Mae 1 ysgol gynradd sydd â ffrwd Gymraeg a ffrwd iaith ddeuol (50% Cymraeg a 50% Saesneg).

Mae dwy ysgol gynradd â ffrwd ddeuol. Mae 1 ffrwd yn ffrwd Gymraeg a’r llall yn ffrwd Saesneg.

Gwneud cais am le mewn ysgol

Gallwch ymweld â gwefan Cyngor Caerdydd i:

Children outside a school

Dysgwyr sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)

Mae pob ysgol yng Nghaerdydd yn darparu ystod o ymyrraeth a chymorth cynnar a darpariaethau anghenion dysgu ychwanegol (ADY). Mae hyn yn sicrhau y gall plant a phobl ifanc ag ADY wneud cynnydd yn eu dysgu a’u llesiant.

Gall yr ysgolion fanteisio ar amrywiaeth o hyfforddiant, cefnogaeth a chyngor gan Wasanaethau Athrawon Arbenigol a chan Seicolegwyr Addysg i ddatblygu eu hymarfer cynhwysol, ac i ddiwallu anghenion pob dysgwr.  Gall y timau arbenigol ddarparu cyngor a chefnogaeth ar gyfer:

  • Gwybyddiaeth a dysgu
  • Lleferydd, iaith a chyfathrebu
  • Anghenion synhwyraidd a chorfforol
  • Iechyd a lles emosiynol

Mae Cyngor Caerdydd wedi ymrwymo i ddarparu cymorth yn ddwyieithog. Mae’r cymorth ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Mwy o wybodaeth i chi am Gymorth ADY i ddysgwyr oed ysgol.

Plant 0 i 5 oed ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY)

Mae’r Gwasanaeth Cynhwysiant Blynyddoedd Cynnar Cyngor Caerdydd yn cefnogi plant 0 i 5 oed sydd ag anghenion sylweddol neu gymhleth.

Mae’r gwasanaeth yn dwyn ynghyd amrywiaeth o arbenigedd, cyngor ac arweiniad ar gyfer:

  • phlant a’u teuluoedd,
  • lleoliadau blynyddoedd cynnar, ac
  • ysgolion.

Mae’r gwasanaeth wedi ymrwymo i ddarparu cymorth yn ddwyieithog.  Mae gweithwyr yn gweithio’n agos gyda’r Mudiad Meithrin i gynnig cymorth ac ymweliadau rheolaidd â’r holl leoliadau Cylch Meithrin.

Dysgwch fwy am gynhwysiant yn y blynyddoedd cynnar.

Gwasanaeth Seicoleg Addysg

Mae Gwasanaeth Seicoleg Addysg Cyngor Caerdydd (GSA) yn cymhwyso seicoleg i weithio gyda phlant a phobl ifanc, eu teuluoedd ac ysgolion er mwyn helpu i wneud newidiadau cadarnhaol.

Mae Cyngor Caerdydd wedi ymrwymo i ddarparu cefnogaeth yn ddwyieithog.

I gael mwy o wybodaeth, ewch i wefan Gwasanaethau Addysg Caerdydd.

Dyw hi byth yn rhy hwyr i ddysgu Cymraeg!

Unded Drochi Iaith Caerdydd

Ydych chi newydd symud i Gaerdydd? Neu a yw eich plentyn chi eisoes yn mynychu ysgol arall, ond eich bod yn ystyried trosglwyddo i ysgol Gymraeg?
Os yw eich plentyn rhwng 5 ac 11 oed ac yn newydd i’r Gymraeg neu’n hwyr-ddyfodiad i addysg Gymraeg, mae modd i chi ymuno o hyd â’r daith Gymraeg! Ein Huned Drochi Gymraeg hynod lwyddiannus yw’r lle delfrydol i blant a phobl ifanc ddysgu’r Gymraeg yn gyflym ac yn effeithiol. Mae ein cwrs iaith dwys yn rhoi cyfle i bob plentyn yng Nghaerdydd allu manteisio ar addysg Gymraeg. Mae dysgwyr oed cynradd yn cael eu trochi yn y Gymraeg i ennill lefel o ruglder a fydd yn eu galluogi i lwyddo yn eu hysgol Gymraeg yng Nghaerdydd.

Os ydych chi’n newydd i Gaerdydd a’ch plentyn rhwng 5 ac 11 oed, gallwch ymweld â gwefan Cyngor Caerdydd i wneud cais am le mewn ysgol yn ystod y flwyddyn academaidd yng Nghaerdydd.

Os am wybod mwy am yr Uned Drochi Iaith, cysylltwch ag Arweinydd yr Uned Drochi ar 02920 626650 neu drwy e-bost Trochi.iaith@caerdydd.gov.uk.

Cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg y tu allan i’r ysgol

Mae’n bwysig bod eich plentyn yn gallu defnyddio’r Gymraeg yn gymdeithasol a thu allan i’r ysgol.

Mae Menter Caerdydd a’r Urdd yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau cyffrous ac ysgogol ar draws y ddinas ar gyfer plant oed cynradd.

Logo Menter Caerdydd
Logo Urdd

Bod yn Ddwyieithog

Logo Cymraeg i Bawb

Rydym yn falch o fod yn rhan o Bartneriaeth Hyrwyddo Addysg Gymraeg y De-ddwyrain sydd yn gyfrifol am Cymraeg i Bawb – yr ymgyrch i hyrwyddo addysg Gymraeg.