Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i wefan Ein Dinas Ein Hiaith | Our City Our Language.

Cynhelir y wefan hon gan Gyngor Caerdydd. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio’r wefan hon.  Er enghraifft, mae hynny’n golygu y dylech allu:

  • newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau gan ddefnyddio gosodiadau porwr neu ddyfais,
  • chwyddo hyd at 400% heb i’r testun fynd oddi ar y sgrin
  • llywio’r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd neu feddalwedd adnabod lleferydd, a
  • gwrando ar y rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiynau mwyaf diweddar o JAWS, NVDA a VoiceOver)

Rydym hefyd wedi gwneud y testun ar y wefan mor syml â phosibl i’w ddeall.

Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws ei defnyddio os oes gennych anabledd.

Adborth a gwybodaeth gyswllt

Cysylltwch â ni os ydych:

  • yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi’u rhestru ar y dudalen hon,
  • yn credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, neu
  • os oes angen gwybodaeth arnoch am y wefan hon mewn fformat gwahanol

E-bost: caerdyddddwyieithog@caerdydd.gov.uk

Byddwn yn ystyried eich cais ac yn cysylltu â chi cyn gynted â phosibl.

Gweithdrefn orfodi

Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych yn fodlon ar sut rydym yn ymateb i’ch cwyn,  cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb (EASS).

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae Cyngor Caerdydd wedi ymrwymo i wneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif 2) 2018.

Statws cydymffurfio

Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â [Safon AA y Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe fersiwn 2.1 neu Safon AA y Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe fersiwn 2.2], oherwydd y diffyg cydymffurfio a’r eithriadau a restrir isod.

Cynnwys nad yw’n hygyrch

Nid yw’r Recaptcha Google a ddarperir gan wasanaeth trydydd parti i atal sbam a cham-drin yn gwbl hygyrch am y rhesymau canlynol:

  • Mae label yn eisiau ar y rheolydd ffurflen (WCAG 2.0 A 1.3.1)
  • Nid yw’r rheolydd ffurflen yn cyferbynnu’n ddigonol â’i amgylchedd (WCAG 2.1 AA 1.4.11)

Beth rydyn ni’n ei wneud i wella hygyrchedd

Rydym yn rhoi cymorth a hyfforddiant i’r rhai sy’n gweinyddu’r wefan, er mwyn sicrhau bod safonau’n cael eu cadw wrth ddiweddaru’r wefan. Byddwn yn adolygu’r wefan o bryd i’w gilydd.

Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn

Paratowyd y datganiad hwn ar 28 Chwefror 2024.

Fe’i hadolygwyd ddiwethaf ar 28 Chwefror 2024.

Profwyd y wefan hon ddiwethaf ar 28 Chwefror 2024 gan Silktide gyda gwiriadau llaw ychwanegol a gyflawnir gan ein tîm gwefan.

Diweddarwyd y datganiad hwn ddiwethaf ar 29 Chwefror 2024.