Croeso i Gaerdydd

Gallai symud i Gaerdydd fod yn ddechrau pennod newydd ar eich bywyd. Efallai mai dyma’r tro cyntaf i chi fod oddi cartref, neu efallai eich bod wedi magu teulu ac wedi penderfynu astudio nawr.  Beth bynnag yw eich rheswm, gobeithiwn y byddwch chi’n hapus yn ystod eich amser yma.

Efallai y byddwch yn penderfynu aros yn hirach na’ch bwriad gwreiddiol, efallai y byddwch hyd yn oed yn penderfynu gwneud Caerdydd yn gartref i chi.

Mae Caerdydd yn ddinas amlddiwylliannol, amrywiol llawn bywyd. Mae’n ddinas lle mae dros 60,000 o’r boblogaeth yn adrodd bod ganddynt sgil yn y Gymraeg.

Os byddwch yn penderfynu dysgu Cymraeg, gallwn eich helpu i ddysgu’r iaith yn gyflymach drwy’r gweithgareddau amrywiol y gall y brifddinas eu cynnig drwy’r Gymraeg. Gobeithiwn y bydd bod yng Nghaerdydd yn eich ysbrydoli i ddysgu’r iaith a dysgu mwy am ddiwylliant, hanes a threftadaeth Cymru.

Caerdydd Ddwyieithog

Mae llawer o fanteision a buddion hirdymor i allu siarad Cymraeg a Saesneg yn rhugl yng Nghymru.

Gwylia’r fideo byr hwn am fod yn ddwyieithog.

Students catching a bus outside tower block

Bod yn ddwyieithog

Os ydych yn siaradwr Cymraeg rhugl, gallwn eich helpu i ddod o hyd i grwpiau, gweithgareddau a chyfleoedd ledled y ddinas.

Mae Prifysgol Caerdydd, Met Caerdydd a Phrifysgol De Cymru (Campws Caerdydd) i gyd yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau lle gallwch astudio trwy gyfrwng y Gymraeg.

Os oes teulu ifanc gennych, gallwch ddysgu mwy am fanteision addysg Gymraeg.

Dilynwch Gyngor Caerdydd am newyddion, gwybodaeth a diweddariadau ar wasanaethau’r Cyngor yn y Gymraeg.

Gallwch gael gwybod mwy am weithgareddau a digwyddiadau Cymraeg drwy ymuno â grŵp Calendr Caerdydd ar Facebook.