Mae tair ysgol uwchradd Gymraeg Caerdydd yn cynnig ystod eang o gymwysterau drwy eu darpariaethau chweched dosbarth. Mae’r tair ysgol yn gweithio gyda’i gilydd, fel rhan o bartneriaeth BroPlasTaf, i roi cyfle i fyfyrwyr gael mynediad at gyrsiau gan bob un o’r tair ysgol.  Mae partneriaeth BroPlasTaf yn gadael i fyfyrwyr astudio yn Gymraeg a’u helpu i fanteisio ar fywyd cymdeithasol amrywiol.

Mae Coleg Caerdydd a’r Fro yn cynnig addysg Gymraeg a dwyieithog mewn meysydd fel:

  • peirianneg
  • adeiladu;
  • gwallt a harddwch, a
  • gofal plant.

Mae hefyd yn cynnig ystod eang o gyfleoedd allgyrsiol cyfrwng Cymraeg gyda phartneriaid lleol ar draws y gymuned.

Disgyblion Ôl-16 ag anghenion dysgu ychwanegol

Gall Gwasanaeth Ôl-16 Cyngor Caerdydd gefnogi dysgwyr gyda:

  • phontio o’r ysgol i addysg a hyfforddiant ôl-16,
  • fforwm pontio ADY amlasiantaethol,
  • cysylltu â’r Tîm Hyfforddiant Teithio i baratoi pobl ifanc ar gyfer teithio annibynnol,
  • Rhaglenni astudio ôl-16,
  • pontio at lwybrau cyflogaeth â chymorth,
  • llwybrau at raglenni i mewn i waith,
  • darpariaethau i ddiwallu anghenion ADY.

Mae Cyngor Caerdydd wedi ymrwymo i ddarparu cefnogaeth ddwyieithog.  Mae’r cymorth ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Darganfyddwch fwy am y cymorth ADY ôl-16.

Cyfleoedd i barhau i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg

Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn gweithio gyda cholegau addysg bellach, prifysgolion, cyflenwyr prentisiaid, a chyflogwyr i greu cyfleoedd hyfforddi ac astudio yn Gymraeg.

Mae’r coleg yn ysbrydoli dysgwyr, myfyrwyr a phrentisiaid i ddefnyddio eu Cymraeg.  Eu nod yw rhoi’r hyder i bawb ddefnyddio’u Cymraeg wrth hyfforddi, astudio a gweithio.

Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn helpu myfyrwyr i gael mynediad at y cyrsiau gorau i barhau i astudio yn y Gymraeg.  Mae’r coleg hefyd yn cynnig ysgoloriaethau.

Logo Cymraeg i Bawb

Rydym yn falch o fod yn rhan o Bartneriaeth Hyrwyddo Addysg Gymraeg y De-ddwyrain sydd yn gyfrifol am Cymraeg i Bawb – yr ymgyrch i hyrwyddo addysg Gymraeg.