Mae Caerdydd yn falch o gynnig addysg Gymraeg mewn ysgolion uwchradd. Mae addysg Gymraeg yn gadael i blant ddysgu yn y Gymraeg ac yn y Saesneg.

Yng Nghymru mae llawer o fanteision a buddion hirdymor i allu siarad Cymraeg a Saesneg yn rhugl.

Plant y tu allan i ysgol uwchradd

Addysg Gymraeg

Mae gennym 3 ysgol uwchradd Gymraeg ardderchog yng Nghaerdydd sy’n caniatáu i blant a phobl ifanc ddatblygu eu rhuglder a’u hyfedredd yn y Gymraeg a’r Saesneg.  Mae hyn yn adeiladu ar yr iaith y maent wedi’i dysgu yn yr ysgol gynradd a dyma’r cam nesaf naturiol yn eu haddysg.  Erbyn hyn yn natblygiad eich plentyn, mae ei sgiliau iaith wedi symud ymlaen ac aeddfedu gan adael iddo newid nôl a blaen yn hawdd rhwng y ddwy iaith.

Gwneud cais am le mewn ysgol uwchradd

Gallwch ymweld â gwefan Cyngor Caerdydd i wneud cais am le uwchradd Cymraeg yng Nghaerdydd.

Secondary School children with a teacher

Dyw hi byth yn rhy hwyr i ddysgu Cymraeg!

Unded Drochi Iaith Caerdydd

Ydych chi newydd symud i Gaerdydd? Neu a yw eich plentyn neu blant eisoes yn mynychu ysgol arall, ond eich bod yn ystyried trosglwyddo i ysgol uwchradd Gymraeg?
Os nad yw eich plentyn wedi mynychu ysgol gynradd Gymraeg, peidiwch â phoeni, nid yw’n rhy hwyr.

Mae gennym Uned Drochi Iaith hynod lwyddiannus. Os yw eich plentyn rhwng 11 ac 14 oed ac yn newydd i’r Gymraeg neu’n hwyr-ddyfodiad i addysg Gymraeg, yr Uned Drochi Iaith yw’r lle delfrydol iddyn nhw. Mae ein cwrs iaith dwys yn rhoi cyfle i bob plentyn yng Nghaerdydd allu manteisio ar addysg Gymraeg. Mae dysgwyr oed uwchradd yn cael eu trochi yn y Gymraeg i ennill lefel o ruglder a fydd yn eu galluogi i lwyddo yn eu hysgol Gymraeg yng Nghaerdydd.

Os am wybod mwy am yr Uned Drochi Iaith, cysylltwch ag Arweinydd yr Uned Drochi ar 02920 626 650 neu drwy e-bost Trochi.iaith@caerdydd.gov.uk

Cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg y tu allan i’r ysgol

Mae’n bwysig bod eich plentyn yn gallu defnyddio’r Gymraeg yn gymdeithasol a thu allan i’r ysgol.

Mae Menter Caerdydd a’r Urdd yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau cyffrous ac ysgogol ar draws y ddinas ar gyfer plant oed uwchradd.  Un o’u cyfleoedd llwyddiannus a chyffrous yw Clwb Ieuenctid – CFTi. Mae Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd yn rhan o bartneriaeth CFTi.

Logo Menter Caerdydd
Logo Urdd
Logo CFTI

Bod yn Ddwyieithog

Logo Cymraeg i Bawb

Rydym yn falch o fod yn rhan o Bartneriaeth Hyrwyddo Addysg Gymraeg y De-ddwyrain sydd yn gyfrifol am Cymraeg i Bawb – yr ymgyrch i hyrwyddo addysg Gymraeg.