Mae Caerdydd yn cynnig ystod eang o weithgareddau a chyfleoedd i oedolion sy’n siarad Cymraeg neu sy’n dysgu.

Gobeithiwn y bydd byw yma yn eich ysbrydoli i:

  • ddysgu’r iaith, a
  • dysgu mwy am ddiwylliant a hanes Cymru.

Mae’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn helpu pobl i ddysgu a mwynhau’r Gymraeg. Mae gennym Ganolfan Gymraeg leol yma yng Nghaerdydd.

Gweithgareddau a chyfleoedd

Dysgwch am rai o’r gweithgareddau a’r cyfleoedd sydd ar gael ar hyn o bryd.  Os ydych yn gwybod am fwy, mae croeso i chi gysylltu.

Mae gan Gaerdydd dreftadaeth gerddorol gyfoethog ac mae nifer y corau yn y ddinas yn tyfu’n barhaus.

Mae gan y ddinas nifer o leoliadau lle gallwch wrando ar gerddoriaeth Gymraeg.

Mae gan Gaerdydd sawl lle i addoli yn Gymraeg.

Gallwch ddod o hyd i nifer o siopau Cymraeg yng Nghaerdydd.  Maen nhw’n gwerthu teganau, gemau, nwyddau cartref ac anrhegion Cymraeg.

Angen arbenigwr sy’n gallu siarad Cymraeg?

Mae Ffônlyfr – Menter Caerdydd yn gyfeiriadur o bobl sy’n cynnig gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg. Er enghraifft:

  • plymwyr,
  • garddwyr,
  • cyfreithwyr,
  • gwarchodwyr plant,
  • hyfforddwyr personol,
  • diddanwyr, a
  • tiwtoriaid.

Mae gan gyfleoedd Cymraeg Caerdydd gynnig i bob grŵp oedran

Gallwch ddarganfod yr hyn sy’n digwydd yn Gymraeg yng Nghaerdydd drwy ddilyn tudalennau cyfryngau cymdeithasol Cyngor Caerdydd.

Gallwch gael gwybod mwy am weithgareddau a digwyddiadau Cymraeg drwy ymuno â grŵp Calendr Caerdydd ar Facebook.