Bilingual Cardiff?

Caerdydd Ddwyieithog yw darparwr cyfieithu Cymraeg Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.

Mae Caerdydd Ddwyieithog yn darparu ystod o wasanaethau cyfieithu ar y pryd ar-lein, mewn person ac mewn sefyllfaoedd hybrid. Darganfyddwch sut y gallwn eich cefnogi i gynnal digwyddiad yn ddwyieithog.

Translator with headset

Mae cyfieithu ar y pryd yn caniatáu i chi ddefnyddio’r Gymraeg mewn sefyllfa ddwyieithog.  Mae’n grymuso pobl i ddefnyddio’r Gymraeg ac yn creu awyrgylch o ddwyieithrwydd hawdd a naturiol.

Gall pobl sydd eisiau siarad Cymraeg wneud hynny, a bydd cyfieithydd proffesiynol yn defnyddio techneg llais tawel i gyfieithu popeth sy’n cael ei ddweud, ar yr un pryd, i mewn i feicroffon.

Bydd y rhai nad ydyn nhw’n deall Cymraeg yn cael clustffonau i glywed cyfieithiad byw o’r Gymraeg.

Bydd y cyfieithydd yn trafod gyda chi ymlaen llaw i addasu a chyd-gynllunio gwasanaeth i ddiwallu anghenion y person orau.

University Hospital of Wales

Gallwn ddarparu cyfieithu ar y pryd ym mhob sefyllfa, gan gynnwys digwyddiadau bach neu fawr.  Gallai’r rhain fod ar-lein, mewn person, neu gymysgedd o’r ddau. Er enghraifft:

Clinical setting

Lleoliad clinigol

A clipboard assessment

Asesiad

Visit home

Ymweliad

Panel Chat

Cyfarfod amlddisgyblaeth

Two people at a desk

Apwyntiad

Interview

Cyfweliad

Cogs in the brain

Tribiwnlys Iechyd Meddwl

A doctor

Ymyrraethau clinigol

Meeting room desks

Cynadleddau achos

Event

Digwyddiad proffesiynol

Online meeting screen

Ar-lein

Hybrid

Hybrid

Ni yw’r darparwr gwasanaethau cyfieithu Cymraeg Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro, Cyngor Caerdydd, a sawl sefydliad sector cyhoeddus arall.

Mae gennym 28 mlynedd o brofiad o ddarparu cyfieithu ysgrifenedig ac ar y pryd o’r ansawdd uchaf.

Ein dyletswydd yw sicrhau bod gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn gallu darparu gwasanaeth effeithiol a phroffesiynol pan mai Cymraeg yw’r iaith sydd orau gan y claf, y defnyddiwr gwasanaeth neu’r aelod o staff.

Mae ein Tîm Cyfieithu ar y Pryd yn cael ei arwain gan ein Prif Gyfieithydd ar y Pryd ac mae’n cynnwys gweithwyr proffesiynol profiadol a chymwys. Mae holl aelodau’r tîm wedi cwblhau Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Cyfieithu ar y Pryd, ac mae 2 aelod o’r tîm wedi ennill achrediad cyfieithu ar y pryd Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru.

Mae Caerdydd dwyieithog wedi ennill statws sefydliad achrededig gyda Chymdeithas Cyfieithwyr Cymru.

 

Cwrdd â’r Tîm

James

James Eul

Prif Gyfieithydd ar y pryd

Achrediad Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru, Tystysgrif Ôl-raddedig mewn CAP

Arweinydd technegol

Bethan

Bethan Thomas

Uwch Gyfieithydd ar y Pryd

Tystysgrif Ôl-raddedig mewn CAP

Arweinydd cynghori a gwasanaeth cwsmeriaid

Non

Non Shafto-Humphries

Uwch Gyfieithydd ar y Pryd

Tystysgrif Ôl-raddedig mewn CAP

Arweinydd cydlynu a pharatoi

Stori Betsan

Sut gall y Gymraeg wneud gwahaniaeth?

Gwyliwch glip byr 2 funud am brofiad calonogol Betsan.  Gall hyd yn oed ychydig o Gymraeg godi calon rhywun.

Stori Betsan

(yn dechrau o 11:57 yn y clip)

Bathodyn Cymraeg Gwaith Iaith Gwaith

CymraegFfordd syml i staff ddangos eu bod yn siaradwyr Cymraeg neu’n ddysgwyr yw drwy wisgo bathodyn neu gortyn gyda logo Iaith Gwaith. Bydd llawer o siaradwyr Cymraeg yn adnabod y symbol hwn ac yn gwybod eu bod yn gallu siarad gyda’r aelod hwnnw o staff yn Gymraeg.

Os ydych chi eisiau bathodyn neu gortyn, cysylltwch â ni.

Mae ychydig o Gymraeg yn cael effaith fawr

An acornMae Strategaeth Mwy na Geiriau yn dathlu effaith dysgu Cymraeg. Gall staff sydd ag unrhyw lefel o Gymraeg, wrth ymgysylltu â defnyddiwr gwasanaeth sy’n siarad Cymraeg, ddefnyddio ymadroddion syml i’w helpu i deimlo eu bod yn cael eu cefnogi ac i deimlo’n fwy cyfforddus.

 

Rhoi gwybod i bobl

Person using a megaphoneMae’r Cynnig Rhagweithiol yn ymrwymiad yn Strategaeth Mwy Na Geiriau y bydd darparwyr iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru yn ymestyn y cynnig o wasanaethau Cymraeg yn rhagweithiol. Boed ar lafar neu gyda chwestiwn mewn ffurflen, gofynnwch i ddefnyddwyr gwasanaeth beth yw’r iaith sydd orau ganddyn nhw. Dyma’ch cam cyntaf tuag at ddull mwy dwyieithog.

 

Darparu gwasanaeth yn ddwyieithog

Translator with headsetMae cyfieithu ar y pryd yn hwyluso sgyrsiau dwyieithog gyda gwasanaeth cyfieithu byw sydd o ansawdd uchel. Os yw defnyddiwr gwasanaeth yn dewis siarad yn Gymraeg, gall wneud hynny, a bydd yn cael clustffonau i glywed cyfieithiad gair am air.

 

Defnyddio sgiliau Cymraeg

Coloured blocksMewn lleoliad grŵp, nid oes angen i staff sy’n siarad Cymraeg newid i’r Saesneg gan y gall pawb ddilyn y sgwrs gyda chlustffon cyfieithu ar y pryd.

Rydym bob amser yn argymell yn gryf y dylai gweithiwr proffesiynol sy’n siarad Cymraeg gynnal y drafodaeth gyda chlaf sydd wedi mynegi dewis i ddefnyddio’r Gymraeg, lle bo hynny’n bosibl. Gallwn gefnogi lle nad yw hyn yn bosibl neu lle mai dim ond rhai aelodau o staff sy’n gallu defnyddio’r Gymraeg.

 

Straeon Llwyddiant

Ask Suzanne

Rydym wedi addasu ein gwasanaeth i gefnogi staff i wrando ar gyfarfodydd misol Ask Suzanne gyda sianel Gymraeg bwrpasol.

Gwasanaethau Cymdeithasol

Rydym wedi galluogi teuluoedd sy’n siarad Cymraeg i fynegi eu hunain yn eu hiaith gyntaf lle nad oedd yn bosibl darparu gweithiwr cymdeithasol a oedd yn siarad Cymraeg.

Cyfweliadau

Rydym wedi cefnogi ymgeiswyr i ddefnyddio’r Gymraeg mewn cyfweliadau swydd, gan ddarparu cyfieithu ar y pryd i ran o’r panel neu’r panel cyfan.

Asesiad Clinigol

Rydym wedi cynorthwyo mewn asesiadau clinigol, gan addasu ein gwasanaeth yn ôl anghenion y claf a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol.

Gwahodd siaradwyr i gyflwyno yn Gymraeg

Gallwch fod yn eiriolwr gwych dros yr iaith drwy annog pobl eraill, p’un a ydych chi’n siarad Cymraeg eich hun neu beidio. Os yw rhywun sy’n siarad Cymraeg yn cyflwyno o flaen cynulleidfa, beth am ei annog i wneud hynny yn Gymraeg, gyda chyfieithu ar y pryd? Bydd ein tîm cyfieithu yn gweithio’n agos gyda chi i baratoi a gwneud yn siŵr bod y profiad o wrando ar y cyfieithiad yn brofiad pleserus i bawb sy’n mynychu.

Cyfieithu ar y Pryd ar Teams

Mae amserlennu cyfieithu i gyfarfod Teams yn hawdd ac yn gost-effeithiol. Mae hon yn ffordd wych o ddod â phobl at ei gilydd mewn cyd-destun dwyieithog a bydd Caerdydd Ddwyieithog gyda chi bob cam o’r ffordd i’ch helpu i roi’r gosodiadau cywir ar waith.

Cymorth technegol

Rhwng clustffonau, cyflwyniadau, sianeli cywir, Wi-Fi, gwrthdaro tonfedd, ffrydio byw, gwahanol feicroffonau a mwy, oes wir modd ychwanegu cyfieithu ar y pryd i’r gymysgedd?

Oes! Rydym yn ymfalchïo mewn creu lle i’r Gymraeg, beth bynnag fo’ch anghenion. Mae gennym hefyd yr arbenigedd a’r profiad i ofalu am yr ochr dechnegol. Mae hyn yn eich galluogi i ganolbwyntio ar drefnu digwyddiad gwych.

Ymddiriedaeth a chyfrinachedd

Mae cyfrinachedd yn flaenoriaeth i ni, ac mae ein systemau yn gwneud yn siŵr ein bod yn dilyn deddfwriaeth diogelu data. Rydym yn gweithio gyda chi i ddylunio’r broses orau ar gyfer eich cyfarfod neu sefyllfa sy’n parchu hawliau, cyfrinachedd ac urddas eich mynychwyr.

Efallai y bydd mynychwyr yn dibynnu arnom mewn sefyllfaoedd sensitif neu gyfrinachol iawn, ac ni fyddwn yn eu gadael i lawr.

Ein nod yw i berson allu mynegi ei hun yn yr iaith sydd orau ganddo yn hyderus. Byddwn yn darparu cyfieithydd gyda phrofiad yn y materion dan sylw yn ogystal â’r hyfforddiant priodol ar gyfer y sefyllfa benodol.

Profi am ddim

Ni fyddwn yn codi unrhyw gostau am unrhyw gyfarfod i drafod eich anghenion cyfieithu neu ar gyfer cyfarfodydd byr i brofi gosodiadau cyfieithu.  Byddwn hefyd yn hapus i ymweld â safle cyn digwyddiad i gynnal prawf cyfieithu ac ni fyddwn yn codi tâl am hyn oni bai bod y lleoliad y tu allan i Gaerdydd neu bod angen ein presenoldeb am fwy na hanner awr.

Offer

Rydym yn defnyddio offer o’r radd flaenaf a ddatblygwyd gan Sennheiser.  Mae’r offer gwydn o ansawdd uchel hwn yn darparu sain glir.  Maen nhw hefyd wedi’u cynllunio i fod yn rhwydd eu ddefnyddio.

I ddefnyddio’r offer, nid oes angen clicio botymau.  Mae ein dyfeisiau yn awtomatig yn troi ymlaen pan fyddant yn gwisgo ac yn diffodd pan na fyddant yn cael eu gwisgo mwyach. Mae hyn yn helpu i arbed pŵer.

Mae ein hoffer wedi cael llawer o adborth cadarnhaol gan ddefnyddwyr.

Hylendid

Mae’n bwysig bod cwsmeriaid yn teimlo’n ddiogel gyda ni.  Rydym yn diheintio’r holl offer yn llawn cyn ac ar ôl pob defnydd.

Iechyd a diogelwch

Mae ein hoffer, sydd o ansawdd proffesiynol ac wedi’u datblygu gan frand dibynadwy, yn gwbl ddiogel i’w ddefnyddio ac nid oes unrhyw wifrau na pheryglon baglu. Byddwn yn gweithio’n agos gyda chi i ymateb yn briodol i bob mater iechyd a diogelwch.

Anghenion ychwanegol

Mae gennym hefyd ddyfeisiau sy’n cysylltu â chymhorthion clyw, felly os oes pobl yn defnyddio cymorth clyw yn eich digwyddiad, gallwn ddarparu ateb ar gyfer y sefyllfa hon.

Beth bynnag yw’r angen, byddwn yn gweithio gyda chi i sicrhau datrysiad cyfieithu amserol.

Yswiriant

Mae gennym yswiriant indemniad cynhwysfawr.

Cysylltu â ni

Cysylltwch â ni drwy e-bost i drafod eich anghenion.

cyfieithuarypryd@caerdydd.gov.uk