
Mae Caerdydd Ddwyieithog yn darparu ystod o wasanaethau cyfieithu ar y pryd ar-lein, mewn person ac mewn sefyllfaoedd hybrid. Dysgwch sut y gallwn eich cynorthwyo i gynnal digwyddiad yn ddwyieithog.
Cysylltwch â ni heddiw i drefnu eich digwyddiad yn ddwyieithog

Beth yw cyfieithu ar y pryd?
Mae cyfieithu ar y pryd yn eich galluogi i ddefnyddio’r Gymraeg mewn sefyllfa ddwyieithog. Mae’n grymuso pobl i ddefnyddio’r Gymraeg ac yn creu awyrgylch o ddwyieithrwydd hawdd a naturiol.
Gall pobl sydd eisiau siarad Cymraeg wneud hynny, a bydd cyfieithydd proffesiynol yn defnyddio techneg llais tawel i gyfieithu popeth sy’n cael ei ddweud, ar yr un pryd, i mewn i feicroffon.
Bydd y rhai nad ydynt yn deall Cymraeg yn cael clustffonau i glywed cyfieithiad byw o’r Gymraeg.
Gallwn ddarparu cyfieithu ar y pryd ym mhob sefyllfa, gan gynnwys digwyddiadau bach neu fawr. Gallai’r rhain fod ar-lein, mewn person, neu gymysgedd o’r ddau. Er enghraifft:

Cyfarfodydd

Cynadeleddau

Darlithoedd

Gwrandawiadau

Sgyrsiau panel

Cyfweliadau

Digwyddiadau

Ar-lein

Hybrid
Mae Caerdydd Ddwyieithog yn arwain ar faterion polisi a hyrwyddo’r Gymraeg yng Nghyngor Caerdydd. Ein gweledigaeth yw gwneud Caerdydd yn ddinas sy’n wirioneddol ddwyieithog.
Mae gennym 28 mlynedd o brofiad o ddarparu cyfieithu ysgrifenedig ac ar y pryd o’r ansawdd uchaf.
Mae ein tîm Cyfieithu ar y Pryd yn cael ei arwain gan ein Prif Gyfieithydd ar y Pryd ac mae’n cynnwys gweithwyr proffesiynol profiadol a chymwys. Mae holl aelodau’r tîm wedi cwblhau Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Cyfieithu ar y Pryd, ac mae dau aelod o’r tîm wedi ennill achrediad cyfieithu ar y pryd Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru.
Mae Caerdydd Ddwyieithog wedi ennill statws sefydliad achrededig gyda Chymdeithas Cyfieithwyr Cymru.
Cwrdd â’r tîm

James Eul
Prif Gyfieithydd ar y Pryd
Achrediad CCC, Tystysgrif Ôl-raddedig mewn CAP
Yn arbenigo mewn cyfieithu mewn apeliadau, gwrandawiadau a materion cyfreithiol
Arweinydd technegol

Bethan Thomas
Uwch Gyfieithydd ar y Pryd
Tystysgrif Ôl-raddedig mewn CAP
Yn arbenigo mewn cyfieithu ym maes addysg
Arweinydd cynghori a gwasanaeth cwsmeriaid

Non Shafto-Humphries
Uwch Gyfieithydd ar y Pryd
Tystysgrif Ôl-raddedig mewn CAP
Yn arbenigo mewn cyfieithu mewn digwyddiadau ac yn y gymuned
Arweinydd cydlynu a pharatoi
Gall defnyddio cyfieithu ar y pryd fod yn gam pwerus tuag at ddod yn sefydliad dwyieithog. Gyda ni, bydd eich digwyddiad a’ch mynychwyr mewn dwylo diogel.
Os oes gennych siaradwyr Cymraeg yn eich tîm, grŵp neu gyfarfod, gall cyfieithu ar y pryd rymuso pobl i gyfrannu yn eu hiaith, a gall hynny wneud i fynychwyr deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi. Mae hyn hefyd yn dangos eich cefnogaeth o’u sgiliau a’u hunaniaeth ac mae’n dathlu dwyieithrwydd.
Cymraeg 2050: creu lle i’r Gymraeg
Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod y nod beiddgar nid yn unig o gyrraedd 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 ond hefyd o ddyblu’r cyfleoedd i ddefnyddio’r iaith. Gallwn eich helpu i gyfrannu at y nod hwn drwy greu cyfle i siaradwyr Cymraeg ddefnyddio eu hiaith yn eich cyfarfodydd a’ch digwyddiadau.
Cadeirio yn Gymraeg
Gall Cadeirydd fod yn fodel rôl pwerus drwy ddefnyddio ychydig o Gymraeg, cadeirio’n llawn yn Gymraeg, neu atgoffa’r mynychwyr o’r opsiwn i ddefnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod yn aml.
Gwahodd siaradwyr i gyflwyno yn Gymraeg
Gallwch fod yn eiriolwr gwych dros yr iaith drwy annog pobl eraill, p’un a ydych chi’n siarad Cymraeg eich hun neu beidio. Os yw rhywun sy’n siarad Cymraeg yn cyflwyno o flaen cynulleidfa, beth am ei annog i wneud hynny yn Gymraeg gyda chyfieithu ar y pryd? Bydd ein tîm cyfieithu yn gweithio’n agos gyda chi i baratoi a gwneud yn siŵr bod y profiad o wrando ar y cyfieithiad yn brofiad pleserus i bawb sy’n mynychu.
Cyfieithu ar y Pryd ar Teams
Mae trefnu cyfieithu ar gyfarfod Teams yn hawdd ac yn gost-effeithiol. Mae hon yn ffordd wych o ddod â phobl at ei gilydd mewn cyd-destun dwyieithog a bydd Caerdydd Ddwyieithog gyda chi bob cam o’r ffordd i’ch helpu i roi’r gosodiadau cywir ar waith.
Cymorth technegol
Rhwng clustffonau, cyflwyniadau, sianeli cywir, Wi-Fi, gwrthdaro tonfedd, ffrydio byw, gwahanol feicroffonau a mwy, oes wir modd ychwanegu cyfieithu ar y pryd i’r gymysgedd?
Oes! Rydym yn ymfalchïo mewn creu lle i’r Gymraeg, beth bynnag fo’ch anghenion, ac mae gennym yr arbenigedd a’r profiad i ofalu am yr ochr dechnegol. Mae hyn yn eich galluogi i ganolbwyntio ar drefnu digwyddiad gwych.
Ymddiriedaeth a chyfrinachedd
Mae cyfrinachedd yn flaenoriaeth i ni, ac mae ein systemau yn gwneud yn siŵr ein bod yn dilyn deddfwriaeth diogelu data. Byddwn yn gweithio gyda chi i ddylunio’r broses orau ar gyfer eich cyfarfod neu sefyllfa sy’n parchu hawliau, cyfrinachedd ac urddas eich mynychwyr.
Efallai y bydd mynychwyr yn dibynnu arnom mewn sefyllfaoedd sensitif neu gyfrinachol iawn, ac ni fyddwn yn eu siomi.
Ein nod yw i berson allu mynegi ei hun yn yr iaith sydd orau ganddo yn hyderus. Byddwn yn darparu cyfieithydd gyda phrofiad yn y materion dan sylw yn ogystal â’r hyfforddiant priodol ar gyfer y sefyllfa benodol.
Mae Safonau’r Gymraeg yn gosod gofynion penodol ar sefydliadau. Mae hyn yn cynnwys darparu cyfieithu ar y pryd.
Dyma rai enghreifftiau o safonau sy’n berthnasol fel arfer i gyrff cyhoeddus ac sy’n ymwneud â chyfieithu ar y pryd:
- Safonau 21, 22A, 25, 28, 29 – y gofyniad i gynnig yr opsiwn i gymryd rhan yn y Gymraeg mewn unrhyw gyfarfod, cynhadledd achos, ac i hwyluso hyn gyda chyfieithu ar y pryd lle bo angen.
- Safon 84, 87, 108 – y gofyniad i gynnig yr opsiwn i gymryd rhan yn y Gymraeg mewn achosion mewnol rhwng staff gan gynnwys cwynion, gweithdrefnau disgyblu a recriwtio.
Cynnig rhagweithiol
Mae’r cynnig rhagweithiol yn sicrhau bod defnyddwyr gwasanaeth yn gwybod eu bod yn gallu defnyddio’r Gymraeg o’r cychwyn cyntaf. Mae hyn yn golygu y bydd gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn gwneud yn siŵr eu bod yn cael gwybod yn rhagweithiol p’un ai Cymraeg yw dewis iaith defnyddiwr y gwasanaeth. Gall hyn fod mewn sgyrsiau gyda’r unigolyn neu ei deulu, a thrwy gynnwys cwestiwn am ddewis iaith mewn ffurflenni. Er enghraifft:

Os nad ydych yn siŵr am eich gallu i ddarparu’r gwasanaeth hwnnw yn Gymraeg, gall cyfieithu ar y pryd fod yn ateb effeithiol mewn llawer o achosion.
Caerdydd Ddwyieithog, Cyngor Dwyieithog
Mae polisi yn amlinellu nifer o ymrwymiadau’n ymwneud â defnyddio’r Gymraeg yn fewnol, megis:
- Datblygu defnydd ffurfiol a chymdeithasol o’r Gymraeg yn ein gweithlu drwy gynnig cyfleoedd dysgu a chymdeithasu rheolaidd, a chyfranogiad ehangach mewn amrywiaeth o rwydweithiau a digwyddiadau iaith ffurfiol ac anffurfiol
- Cynyddu’r cyfleoedd i staff ddatblygu eu sgiliau iaith Gymraeg, gwella eu hyder, a gwella’r gwasanaethau dwyieithog a ddarparwn
- Hyrwyddo ac annog ethos gweithlu dwyieithog yn allanol gyda’r bwriad o ddenu mwy o staff dwyieithog
Peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol
Mae Mesur y Gymraeg 2011 yn cynnwys yr egwyddor bod yn rhaid i gyrff cyhoeddus yng Nghymru beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg. Ystyr hyn yw meddwl am brofiad defnyddwyr gwasanaeth a sut y gellir cyflawni cydraddoldeb i’r rhai y byddai’n well ganddynt gael mynediad at y gwasanaeth hwnnw yn Gymraeg.
Yr hawl i siarad yn Gymraeg
Mae Rhan 1 o Fesur y Gymraeg 2011 yn rhoi’r hawl i bob unigolyn yng Nghymru siarad Cymraeg. Mae Rhan 6 yn rhoi’r pŵer i Gomisiynydd y Gymraeg ymchwilio ac o bosibl ddirwyo unrhyw sefydliad yr honnir ei fod wedi ymyrryd â’r hawl hon.
Mae gan Gaerdydd Ddwyieithog brofiad o gynghori swyddogion a sefydliadau ar eu dyletswyddau cyfreithiol. Gallwn wneud yn siŵr bod y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd a ddarparwn yn un sy’n bodloni’r gofynion cyfreithiol ac sy’n cefnogi defnyddwyr gwasanaeth i arfer eu hawl i ddefnyddio’r Gymraeg yn gyfforddus.
Mwy na Geiriau
Mae Mwy Na Geiriau yn gynllun 5 mlynedd gan Lywodraeth Cymru i wella profiadau defnyddwyr gwasanaeth yng Nghymru ym maes iechyd a gofal cymdeithasol lle mai Cymraeg yw eu hiaith gyntaf neu’r iaith sydd orau ganddynt.
Mae Mwy Na Geiriau yn tynnu sylw at yr effaith y gall gofal sy’n cael ei ddarparu yn iaith gyntaf neu ddewis iaith y claf ei chael ar ganlyniadau a phrofiad cyffredinol. Yn aml, mae derbyn gofal yn yr iaith gywir yn angen.
Cysyniad allweddol ym Mwy Na Geiriau yw’r cynnig rhagweithiol. Mae hyn yn golygu y bydd cyrff cyhoeddus yn mynd ati’n rhagweithiol i ddysgu p’un ai Cymraeg yw dewis iaith defnyddiwr y gwasanaeth. Mae mwy o wybodaeth am y cynnig rhagweithiol ar y dudalen hon.
Achrediad, proffesiynoldeb, gwiriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a diogelu data
Mae pob un o’n cyfieithwyr wedi’u hyfforddi a’u hachredu’n llawn i wneud yn siŵr bod ganddynt y sgiliau priodol i ymgymryd ag ystod o waith. Mae hyn yn cynnwys sefyllfaoedd sy’n ymwneud ag iaith dechnegol neu faterion sensitif.
Rydym yn sicrhau ein bod yn arddel arferion sy’n parchu deddfau diogelu data ym mhob achos. Trwy gael eu hachredu, mae ein cyfieithwyr yn ymrwymo i God Ymddygiad Proffesiynol Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru.
Mae pob cyfieithydd wedi cael gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Dyma rai pethau pwysig i’w nodi cyn cysylltu â ni.
Profi am ddim
Ni fyddwn yn codi unrhyw gostau am unrhyw gyfarfod i drafod eich anghenion cyfieithu neu am gyfarfodydd byr i brofi’r gosodiadau cyfieithu.
Rydym hefyd yn hapus i ymweld â’r safle cyn digwyddiad i gynnal prawf cyfieithu. Ni fyddwn yn codi tâl am hyn oni bai bod y lleoliad y tu allan i Gaerdydd, neu fod angen i ni fod yno am fwy na 30 munud.
Offer
Rydym yn defnyddio offer o’r radd flaenaf a ddatblygwyd gan Sennheiser. Mae’r offer gwydn o ansawdd uchel hyn yn trosglwyddo sain yn glir iawn. Maen nhw hefyd wedi’u cynllunio i fod yn rhwydd eu ddefnyddio.
I ddefnyddio’r offer, nid oes angen clicio botymau. Mae ein dyfeisiau yn awtomatig yn troi ymlaen pan fyddant yn gwisgo ac yn diffodd pan na fyddant yn cael eu gwisgo mwyach. Mae hyn yn helpu i arbed pŵer.
Mae ein hoffer wedi cael llawer o adborth cadarnhaol gan ddefnyddwyr.
Hylendid
Mae’n bwysig bod cwsmeriaid yn teimlo’n ddiogel gyda ni. Rydym yn diheintio’r holl offer yn llawn cyn ac ar ôl pob defnydd.
Iechyd a diogelwch
Mae ein hoffer, sydd o ansawdd proffesiynol ac wedi’u datblygu gan frand dibynadwy, yn gwbl ddiogel i’w ddefnyddio ac nid oes unrhyw wifrau na pheryglon baglu. Byddwn yn gweithio’n agos gyda chi i ymateb yn briodol i bob mater iechyd a diogelwch.
Anghenion ychwanegol
Mae gennym hefyd ddyfeisiau sy’n cysylltu â theclynnau clyw. Os oes pobl yn defnyddio teclyn clyw yn eich digwyddiad, gallwn ddarparu datrysiad ar gyfer y sefyllfa honno.
Beth bynnag yw’r angen, byddwn yn gweithio gyda chi i sicrhau datrysiad cyfieithu amserol.
Yswiriant
Mae gennym yswiriant indemniad cynhwysfawr.
